Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddamwain ffordd ddifrifol a ddigwyddodd tua 5.30 neithiwr ar ffordd yr A48, Ffordd Ewenni, tua chanllath o’r gyffordd gydag Island Farm Road.

Fe fu gwrthdrawiad rhwng car Renault Megane lliw arian, a cherddwr 57 mlwydd oed.

Roedd y cerddwr wedi dod ar hyd lwybr cyhoeddus sy’n ymuno â’r A48 ger Ysgol Isaf Brynteg.

Fe gafodd y cerddwr ei anafu’n ddifrifol, ond dyw ei anafiadau ddim yn peryglu ei fywyd. Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad, ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth o unrhyw fath i ffonio Heddlu De Cymru yng Ngwaelod y Garth ar y rhif 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.