Mae Llywodraeth Cymru yn addo gwella bywydau pobol sy’n gorfod defnyddio Bathodyn Glas anabl yng Nghymru – a hynny trwy daclo’r rheiny sy’n twyllo’r system.

Yn ystod y drafodaeth ddoe ym Mae Caerdydd ar fesur arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Fathodyn Parcio i Bobl Anabl, fe danlinellodd y Gweinidog bod angen delio’n hallt â’r rheiny sy’n cam-ddefnyddio’r Bathodyn Glas.

Os bydd y Bil newydd yn gweld golau dydd, bydd yn cyflwyno pwerau newydd i alluogi awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i ganslo Bathodynnau Glas sy’n cael eu defnyddio’n anonest.

Bydd y Bil newydd hefyd yn rhoi pwerau i swyddogion gorfodi sifil, fel wardeniaid traffig, archwilio a chadw Bathodynnau Glas sy’n cael eu defnyddio’n dwyllodrus neu sydd wedi’u canslo.

“Y bobol sy’n perthyn i gynllun y Bathodyn Glas yw rhai o’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas,” meddai Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chyfiawnder Cymdeithasol.  “Ond mae’r ffaith fod pobol yn camddefnyddio’r system yn broblem.

“Rydan ni eisoes wedi cymryd camau i ymateb i’r broblem hon drwy gyflwyno fersiwn newydd, rhad ac am ddim o’r Bathodyn Glas, sy’n anoddach i’w ffugio neu ei gopïo.

“Bydd mwy o lefydd parcio ar gael i’r bobl hynny sydd â Bathodyn Glas dilys ar ôl inni gael gwared â’r rhai ffug, neu’r rhai sydd wedi dod i ben, a bydd hynny’n ei gwneud yn haws iddyn nhw ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau.”

Arolwg

Mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, cyfaddefodd un o bob deg o bobol Cymru iddyn nhw barcio’n anghyfreithlon mewn mannau a neilltuwyd ar gyfer modurwyr anabl sydd â Bathodyn Glas.

Datgelodd yr arolwg hefyd fod traean o’r rhai a gymerodd ran yn credu y dylid cymryd camau gorfodi yn erbyn y rheini sy’n camddefnyddio Bathodynnau Glas.

Mae yna dros 230,000 o Fathodynnau Glas yn cael eu defnyddio yng Nghymru, a rhyw 2.5 miliwn drwy’r Deyrnas Unedig.