Theresa May
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref yn gwneud datganiad yn y Senedd prynhawn ma ynglŷn â’r ymchwiliad brys i honiadau o gam-drin plant yng ngogledd Cymru.

Mae disgwyl i Theresa May ddweud bod ’na gynlluniau i “edrych yn ofalus iawn” i’r modd roedd yr heddlu wedi delio gyda’r honiadau o gam-drin.

Yn dilyn honiadau bod aelod blaenllaw o’r Blaid Geidwadol wedi bod yn gysylltiedig ag achosion o gam-drin mewn cartrefi plant yn y gogledd, dywedodd Theresa May bod yn rhaid i’r Llywodraeth sicrhau bod popeth wedi cael ei “wneud yn iawn” i fynd i wraidd yr honiadau gwreiddiol.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron eisoes wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal  i geisio darganfod a oedd ymchwiliad Waterhouse 12 mlynedd yn ôl i’r achosion o gamdrin yn y 1970au a’r 80au yn ddigonol.

Dywedodd David Cameron heddiw bod yr honiadau yn “hynod, hynod o bryderus” a bod yn rhaid mynd at wraidd y broblem cyn gynted â phosib.

Bydd Ysgrifennydd Cymru, David Jones yn cwrdd â Steve Messham heddiw sy’n  honni bod aelod blaenllaw o’r blaid Geidwadol wedi ei gam-drin pan oedd yng nghartref gofal Bryn Estyn.

Mae Steve Messham wedi bod yn feirniadol iawn o  Ymchwiliad Waterhouse gan ddweud bod yna gyfyngiadau ar yr ymchwiliad, a bod llawer o dystiolaeth wedi cael ei hystyried yn amherthnasol.

Fe allai adolygiad o’r ymchwiliad gwreiddiol achosi embaras i’r Ysgrifennydd Tramor William Hague gan mai fe oedd yn gyfrifol am sefydlu’r ymchwiliad yn ei rôl fel Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth John Major.

Bydd Prif Weinidog Cymru  Carwyn Jones hefyd yn cynnal trafodaethau gyda’r Comisiynydd Plant, Keith Towler, heddiw ar ôl iddo alw am ymchwiliad newydd.