Mae dau rybudd llifogydd mewn grym yng Nghymru heno – un yn Solfach yn Sir Benfro a’r llall yn Llanddowror yn Sir Gaerfyrddin. Mae Asianthaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi dau rybudd graddfa is yn ogystal ar gyfer yr ardaloedd o’u cwmpas.
Mae’r rhybuddion hyn, ‘Llifogydd – byddwch barod’ mewn grym yn afonydd dalgylchoedd Taf a Chynnin ac afonydd arfordir gorllewin a de Sir Benfro.
Mae rhannau helaeth o Gymru a Lloegr wedi dioddef tywydd drwg drwy’r dydd.
Fe fu’n rhaid cau un o lonydd yr M4 o achos llifogydd yn gynharach heno, gan achosi ciwiau rhwng cyffyrdd 36 a 37.
Ac mae eira trwm wedi disgyn yn ne-orllewin Lloegr, gyda Gwlad yr Haf, gogledd Dorset, Wiltshire a de Swydd Gaerloyw yn cael eu heffeithio waethaf.