Dau o hoff gymeriadau darllenwyr Golwg360 - Wali Tomos ac Arthur Picton
C’mon Midffîld sydd wedi cael ei dewis fel rhaglen fwyaf eiconig S4C gan ddarllenwyr Golwg360.

Mewn pleidlais a ddechreuodd ddoe, y rhaglen gomedi am dîm pêl-droed Bryncoch a ddaeth i’r brig, gan guro Pen Talar a Pobol y Cwm.

Ymddangosodd ar S4C am y tro cyntaf yn 1988, gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng y rheolwr, Mr Arthur Picton, a dau aelod arall ar y pwyllgor, Wali Tomos a Tecwyn Parry, neu Tecs.

Y berthynas hon rhwng yr actorion, John Pierce Jones, Mei Jones a Bryn Fôn a sicrhaodd fod cynhyrchiad Nant yn un o raglenni mwyaf cofiadwy S4C yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf.

Un o gymeriadau mwyaf hoffus ond direidus y rhaglen oedd George Huws (Llion Williams), oedd yn mynd allan gyda merch Mr Picton, Sandra.

Creodd y tyndra rhwng George a Mr Picton rai o olygfeydd mwyaf cofiadwy’r gyfres.

Am chwe blynedd yn unig y cafodd y gyfres ei darlledu, ond bu ambell rifyn arbennig adeg y Nadolig yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn y rhifyn diwethaf adeg y Nadolig 2004, C’mon Midffîld a Rasbrijam, aeth y criw i Azerbaijan wedi i Sandra fynd i goma.