Paul Flynn
Mae’n ymddangos fod plentyn bach arall wedi marw trwy ddamwain gyda bleinds ffenest, ychydig fisoedd ar ôl i AS o Gymru alw am newidiadau.

Mae heddlu yn Llundain yn ymchwilio i farwolaeth geneth 2 oed mewn cartref moethus yn Notting Hill, ond yr amheuaeth yw ei bod wedi cael ei thagu gan linyn bleind.

Ym mis Ebrill, roedd AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, wedi cael dadl arbennig yn Nhŷ’r Cyffredin ar ran gwraig o’i etholaeth a oedd newydd golli plentyn bach yn yr un ffordd.

Mae’r broblem yn codi gyda math o fleindiau rholio, gyda’r peryg fod y gorden yn mynd yn sownd o amgylch gwddw plentyn bach.

Angen dyfeisiau diogelwch

Fe ddywedodd Paul Flynn y dylai pob bleind gael dyfais ddiogelwch, y dylai fod cyngor diogelwch gyda phob un a bod angen safonau cyson rhyngwladol.

Fe alwodd yr Aelod Seneddol am roi anogaeth i gwmnïau bleindiau i gynhyrchu mathau mwy diogel, ond fe ddywedodd y Llywodraeth y dylai’r diwydiant wneud hynny beth bynnag.

Bellach, mae’r corff atal damweiniau RoSPA yn galw am gyfreithiau newydd i fynnu bod dyfeisiau diogelwch ar y bleindiau, neu i’w gwahardd yn llwyr.