Prifysgol Aberystwyth
Mae cynrychiolwyr myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyhuddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda o’u hanwybyddu wrth wneud penderfyniadau pwysig am wasanaethau iechyd rhyw’r Brifysgol.

Yn ôl Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Carys Thomas, fe wnaed y penderfyniad i gau clinig rhyw wythnosol y Brifysgol yn ystod gwyliau’r haf, a heb unrhyw ymgynghoriad â’r myfyrwyr.

Yn ôl Carys Thomas, mae’r penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn arwydd o “ddiffyg parch” at y ffaith mai gwasanaeth arbenigol i fyfyrwyr oedd y clinig, a oedd yn cael ei gynnal bob prynhawn dydd Iau ar y campws.

‘Angen trafod gyda’r myfyrwyr’

Mewn rhaglen arbennig o Hacio heno yn edrych ar y penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda a’r effaith ar fyfyrwyr, mae Carys Thomas yn rhybuddio y gallai’r penderfyniad gael effaith hirdymor ar fyfyrwyr y Brifysgol.

“Mae iechyd rhyw yn rhywbeth pwysig iawn i ni ei hybu o fewn y Brifysgol, a dwi’n credu bod y ffaith y bydd yn rhaid i fyfyrwyr efallai fynd at eu meddygon lleol nawr fod yn rhwystredigaeth, a bydd llai o fyfyrwyr yn gwneud hynny.”

Ond yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, cafodd y penderfyniad ei wneud oherwydd “prinder staff,” ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n dal i ddarparu gwasanaethau iechyd rhyw mewn dwy ganolfan arall yn y dre.

Ond mae’r Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, yn dweud y dylai Hywel Dda ddychwelyd at y bwrdd i drafod â’r myfyrwyr eu hunain.

“Bydden i’n lico petai Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn barod i gwrdd â’r myfyrwyr, er mwyn trafod yr anghenion,” meddai.

‘Cyngor yn annigonol’

Daw’r newyddion am gau clinig iechyd rhyw Prifysgol Aberystwyth wrth i arolwg arbennig o fyfyrwyr Cymru gan raglen Hacio ddatgelu fod 52% o ferched a 41% o fechgyn yn credu bod y cyngor rhyw sydd ar gael yn y brifysgol yn annigonol.

Mae’r arolwg hefyd yn datgelu fod 76% o fechgyn wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom, a 71% o ferched wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom, er bod y canran o fyfyrwyr sydd wedi cael profion am glefydau rhyw a HIV yn parhau’n isel.

Bydd pryderon myfyrwyr Aberystwyth am gau’r gwasanaeth, a sefyllfa iechyd rhyw myfyrwyr ar draws Cymru yn cael eu datgelu heno ar Hacio, 10pm ar S4C.