Wisgi
Mae bwyty yn Abertawe wedi ymddiheuro ar ôl i fachgen dwy oed gael gwydraid o wisgi, yn lle sudd ffrwythau, i yfed yn ei barti pen-blwydd.

Yfodd Sonny Rees tua deg llymaid yn ei barti ym mwyty Frankie and Benny’s cyn i’w fam, Nina Rees, sylwi fod rhywbeth o’i le.

Roedd “yn amlwg wedi meddwi” meddai ei fam, ac aeth hi ag ef i’r ysbyty. Cafodd Sonny fynd adre ar ôl cyfnod dan oruchwyliaeth meddygon.

Roedd Nina Rees wedi archebu sudd ffrwythau i Sonny ond cafodd yr archeb ei ddrysu gydag archeb criw o lanciau.

Dywedodd Frankie and Benny’s eu bod hi’n “ddrwg iawn” ganddyn nhw am y camsyniad a’u bod nhw’n gweithredu er mwyn gwneud yn siŵr na fydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto.