Mae’r heddlu yng Nghaerdydd wedi arestio dyn 27 oed o’r Fenni yn dilyn ymosodiad rhywiol yn y ddinas.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yng ngerddi Waterloo yn ardal y Rhath.

Credir bod y dyn hefyd wedi ymosod ar ddwy ferch ifanc mewn siop yn Heol y Frenhines yng Nghaerdydd tua 1.50yh  ddydd Sadwrn diwethaf, 6 Hydref.

Roedd swyddogion diogelwch wedi siarad â’r ddwy ferch ond roedden nhw wedi gwrthod gadael eu henwau a’u cyfeiriad ac wedi gadael y siop cyn i’r heddlu gyrraedd.

Mae’r heddlu’n apelio ar y ddwy ferch i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.