Mark Bridger
Fe fydd y dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones yn mynd gerbron Llys y Goron Caernarfon heddiw.

Mae disgwyl i Mark Bridger, 46, ymddangos drwy gyswllt fideo o’r carchar ym Manceinion lle mae’n cael ei gadw.

Mae’r cyn achubwr bywyd wedi ei gyhuddo o gipio a llofruddio’r ferch 5 oed o Fachynlleth a gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy guddio ei chorff.

Cafodd ei gyhuddo ddydd Sadwrn ac roedd wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Llun.

Cafodd April ei gweld y tro diwethaf ger ei chartref ar stad Bryn-y-Gog dros wythnos yn ôl. Parhau mae’r chwilio am ei chorff.