Ched Evans
Mae dau o bobl eraill wedi cael eu cyhuddo o gyhoeddi enw’r ferch gafodd ei threisio gan y pêl-droediwr Ched Evans mewn sylwadau ar-lein, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Mae Benjamin Davies, 27, o’r Rhyl, a Michael Ashton, 21, o Landdulas, wedi eu cyhuddo o gyhoeddi deunydd ar Twitter a allai arwain at adnabod y ferch gafodd ei threisio.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fyddan nhw’n mynd o flaen Llys Ynadon Prestatyn ar 5 Tachwedd.

Mae pedwar o bobl bellach wedi cael eu cyhuddo ar ôl i’r achos yn erbyn y peldroediwr ddod i ben ym mis Ebrill.

Ddoe, cafodd Dominic Green, 23, o’r Rhyl ac Alexandra Hewitt, 24, o Frychdyn eu cyhuddo o gyhoeddi deunydd ar Facebook a allai arwain at adnabod y ferch gafodd ei threisio.

Cafodd Ched Evans, 23, cyn beldroediwr gyda Sheffield United a Chymru, ei garcharu am bum mlynedd am dreisio’r ferch 19 oed mewn gwesty ger y Rhyl.

Roedd Evans wedi cyfaddef iddo gael rhyw gyda’r ddynes ond dywedodd y ferch nad oedd hi’n cofio’r digwyddiad – roedd yr erlyniad yn honni ei bod yn rhy feddw i gydsynio i gael rhyw.