Arwydd ar yr A470
Dangosodd clefyd clwy’r traed a’r genau pa mor wydn yw ffermio yng Nghymru.

Dyna farn llywydd NFU Cymru, 10 mlynedd ers i’r clwy heintus ledu dros Gymru.

Dywedodd yr undeb fod yr argyfwng yn 2001, arweiniodd at ladd miliwn o anifeiliaid, wedi difrodi’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

Ond er bod ffermwyr yn parhau i ddioddef yn sgil yr argyfwng, roedd ffermio wedi adfer dros y blynyddoedd, meddai Ed Bailey.

“Does dim amheuaeth bod yr argyfwng clwy traed a’r genau yn 2001 yn drychineb i’r diwydiant yng Nghymru ac yng ngweddill Ynysoedd Prydain,” meddai.

“Deg mlynedd yn ddiweddarach mae’r diwydiant wedi dangos ei fod yn wydn ac wedi tyfu unwaith eto.

“Er nad ydyn ni wedi datrys yr holl broblemau, mae ffermio mewn man llawer gwell erbyn hyn.

“Mae ffermio wrth galon yr economi ac yn darparu atebion ar gyfer nifer o’r cwestiynau anodd sy’n wynebu’r wlad.

“Mae hynny’n cynnwys cynhyrchu rhagor o fwyd ac effeithio llai ar yr amgylchedd.”

Yr argyfwng yn 2001 oedd y gwaethaf o’i fath ers y 60au hwyr. Cafodd dros chwe miliwn o anifeiliaid eu lladd ledled Prydain, gan gostio £3 biliwn i’r trethdalwr.

Powys, Ynys Môn a Sir Fynwy oedd y siroedd oedd wedi eu heffeithio fwyaf.

Er 2001 mae rheolau newydd wedi eu cyflwyno er mwyn ceisio atal y clwy rhag ymledu unwaith eto.

Erbyn hyn mae’n rhaid tagio pob dafad yn unigol, ac mae yna reolau glendid llymach  pan mae anifeiliaid yn cael eu symud o le i le.