Prifysgol Bangor
Mae gwyddonwyr yn gobeithio y bydd labordy dan Brifysgol Bangor yn chwarae rhan flaenllaw wrth atal newid hinsawdd.

Mae’r brifysgol wedi cael £15,000 er mwyn ailwampio eu ‘rhizotron’ – labordy tanddaearol sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn astudio pridd a gwreiddiau planhigion.

Yn ôl swyddogion y brifysgol, y labordy fydd y cyntaf o’i fath ym Mhrydain ac fe fydd yn caniatáu i wyddonwyr astudio pridd heb aflonyddu arno.

Dywedodd yr Athro Thomas H. DeLuca mai’r nod oedd astudio faint o garbon oedd yn cael ei ddal mewn pridd dros gyfnodau hir.

“Fe fydd pridd yn chwarae rhan flaenllaw wrth i Gymru geisio cyrraedd ei darged o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% dros yr 20 mlynedd nesaf,” meddai.

“Ar hyn o bryd dyw gwyddonwyr ddim yn deall sut y mae defnydd y tir, amrywiaeth y planhigion, a newidiadau hinsoddol yn effeithio ar faint o garbon sy’n cael ei storio neu ei ryddhau gan bridd dros gyfnodau hir.

“Bydd y ‘rhizotron’ yn gam mawr ymlaen yn ein dealltwriaeth ni yn hynny o beth.”

Fe fydd gwaith ar y cynllun, sydd wedi ei ariannu gan Sefydliad Wolfson a’r Sefydliad Brenhinol, yn dechrau fis nesaf.