Jonathan Edwards - lle i apelio o hyd
Mae Aelod Seneddol a gefnogodd y bachgen o Bacistan, Ahmer Rana, wedi dweud bod ei stori’n un drasig – er iddo gyfadde’ bellach ei fod wedi dweud celwydd er mwyn aros yng Nghymru.

Mae hefyd yn credu bod gan y llanc le i barhau gyda’i apêl yn erbyn penderfyniad i’w anfon yn ôl i Bacistan.

Ond mae’r Asiantaeth Ffiniau wedi cadarnhau wrth Golwg 360 eu bod eisiau anfon y dyn ifanc o’r wlad a bod eu hymchwiliad nhwthau wedi dangos fod pethau “anghyson” yn ei dystiolaeth.

Fe fydd rhaid iddyn nhw aros am ganlyniad apêl y dyn 19 oed, sy’n byw gyda rhieni maeth yn Nantycaws ger Caerfyrddin ac sy’n mynd i Ysgol y Frenhines Elizabeth yn y dref.

‘Dyn ifanc bregus iawn’

Yn ôl Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, roedd y ffaith bod Ahmer Rana wedi twyllo ynglŷn â’i amgylchiadau yn dangos ei fod yn “ddyn ifanc bregus iawn”.

Fe gyfaddefodd y dyn ifanc, sy’n byw gyda rhieni maeth yn Nantycaws ger Caerfyrddin,  ei fod wedi dweud celwydd am ei oed ac am y peryg yr oedd ei deulu’n ei wynebu yn ôl ym Mhacistan.

Ei enw go iawn yw Daniyal Shahzad ac mae bellach wedi cydnabod ei fod yn gwybod bod ei rieni’n fyw – roedd wedi dweud celwydd er mwyn ceisio’u helpu nhw, meddai.

Roedd ei gyd-ddisgyblion ac athrawon yn ei ysgol yng Nghaerfyrddin a gwleidyddion lleol wedi cefnogi ei ymgyrch i gael aros yng Nghymru.

Yn ôl Jonathan Edwards, roedd ef wedi ymgyrchu ar ei ran ar sail yr wybodaeth yr oedd Ahmer Rana ei hun wedi’i rhoi.

Parhau gyda’i apêl

Fe awgrymodd Jonathan Edwards y gallai’r dyn ifanc 19 oed o Gaerfyrddin barhau gyda’i apêl rhag cael ei anfon yn ôl i Bacistan.

“Mae’n debyg bod ei sialens yn dal i fod yn ddilys oherwydd mae Ahmer wedi’i integreiddio i’r gymuned leol, mae wedi adeiladu a datblygu cysylltiadau cryf sy’n cael eu harddangos yn glir gan gryfder yr ymgyrch yn erbyn ei anfon o’r wlad,” meddai’r AS.

“Wrth gwrs,  byddai wedi bod yn well o ran Ahmer petai wedi bod yn onest o’r dechrau, ond yn amlwg mae wedi bod o dan bwysau aruthrol i ddarparu ar gyfer ei deulu o oed ifanc iawn, sydd yn ddi-os wedi’i roi yn y sefyllfa y mae ynddi’n awr.”

Byd ar Bedwar yn dod o hyd i’r gwir

Rhaglen deledu Y Byd ar Bedwar a oedd wedi dadlennu’r twyll am y tro cynta’ – ar ôl iddo gael clywed bod y rhaglen ar ei drywydd yr aeth y llanc at bapur newydd yr Evening Post i ddweud ei stori.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y rhaglen wrth Golwg360 fod y broses ymchwilio wedi dechrau ar ôl i un o ymchwilwyr y rhaglen fynd gyda Ahmer i’r Swyddfa Gartref yn Llundain gyda deiseb yn erbyn ei alltudio.

Roedd wedi sylweddoli bod llawer o’r wybodaeth gefndir yn gelwydd ac yn y diwedd fe lwyddodd i gael gafael ar fam Daniyal Sahzad.

“Fe ddywedodd hi nad Ahmer Rana oedd ei enw o a’i fod o flwyddyn yn hŷn. Roedd hi’n gyndyn o gydnabod ei bod yn gwybod ei fod o wedi dod i’r wlad yma i ddechrau.”

Sylwadau Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig

“Mae Asiantaeth Ffiniau’r Du wedi ystyried achos Ahmer Rana’n llawn ac, mewn gwrandawiad apel lle rhoddwyd ei dystiolaeth ar brawf, fe wnaeth barnwr gadarnhau ein penderfyniad nad oes angen i’r DU ei ddiogelu.

“Fe wnaeth y  barnwr ganfod bod elfennau o achos Mr Rana yn anghyson a’i fod yn methu â dangos ei fod yn wynebu erledigaeth ym Mhacistan. Mae achos cyfreithiol arall hefyd wedi cael ei wrthod gan y llysoedd.

“Dylai unigolion fel Mr Rana adael y DU yn wirfoddol pan nad oes ganddyn nhw unrhyw sail gyfreithiol i aros yma, ond os yw pobol yn herio penderfyniadau’r llysoedd does gennym ddim dewis ond eu symud.”