Llys y Goron Casnewydd
Mae gweithiwr mewn ffatri sydd wedi ei gyhuddo o gynnau tân yn ffatri Real Crisps lle’r oedd yn gweithio wedi bod gerbron llys bore ma.

Mae Colin Goulding, 30, o Heol y Bont, Abertyleri, wedi ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Roedd y tân wedi difrodi 75% o’r ffatri greision yng Nghrymlyn ar 20 Medi gan achosi difrod gwerth mwy na £6 miliwn.

Fe ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd bore ma drwy gyfrwng fideo a chafodd yr achos ei ohirio tan 23 Tachwedd.

Mae Colin Goulding wedi cael ei gadw yn y ddalfa.