Mae Llys Iawnderau Dynol Ewrop wedi dweud fod dedfrydu person i garchar am gyfnod amhenodol yn groes i’w hawliau dynol nhw, ac mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd yn galw am ymchwiliad i’r defnydd o’r ddedfryd ym Mhrydain.
Mae 6,000 o garcharorion – sef 7% o’r boblogaeth garchar – wedi cael dedfryd amhenodol, sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer i gadw troseddwyr treisgar dan glo, gan gynnwys y rheiny sydd wedi eu cyhuddo o derfysgaeth.
Rhaid iddyn nhw dreulio cyfnod penodol dan glo, ond ar ôl i’r cyfnod yna basio nid yw llawer ohonyn nhw’n gwybod pryd y byddan nhw’n cael eu rhyddhau.
Mae Elfyn Llwyd AS, sy’n aelod o Bwyllgor Cyfiawnder San Steffan, yn galw ar y Llywodraeth i gynnal ymchwiliad i’r dedfrydau, gan ddweud eu bod nhw’n “ddedfrydau oes trwy’r drws cefn.”
‘Hawliau dynol y dioddefwyr yn bwysicach’
Ond mae Aelod Seneddol Mynwy, David Davies, wedi dweud wrth BBC Radio Wales fod troseddwyr wedi cael dedfrydau amhenodol am iddyn nhw gyflawni troseddau rhyw neu dreisgar, a bod hawliau dynol y dioddefwyr yn bwysicach na hawliau dynol y troseddwyr.
Roedd tri charcharor oedd wedi eu carcharu am gyfnod amhenodol wedi cwyno i Strasbwrg nad oedd eu byrddau parôl yn fodlon eu rhyddhau nhw am nad oedden nhw wedi bod ar gyrsiau ailsefydlu, ond nid oedd y cyrsiau ar gael.
Daeth y dedfrydau amhenodol i rym yn 2005, dan y Llywodraeth Lafur.