Ahmer Rana
Mae disgybl o Gaerfyrddin a oedd yn destun ymgyrch i’w rwystro rhag cael ei anfon o’r wlad wedi cyfaddef iddo ddweud celwydd am ei amgylchiadau.

Mae Ahmer Rana a honnodd ei fod yn 18 oed ddydd Nadolig y llynedd, wedi cydnabod y twyll wrth bapur yr Evening Post – ei fod yn 19 oed ac mai ei enw iawn yw Daniyal Shahzad.

Roedd hynny ar ôl i’r rhaglen deledu, Y Byd ar Bedwar, ddweud wrtho eu bod wedi dod o hyd i’r gwirionedd am ei gefndir.

Roedd ymgyrch fawr wedi codi o’i blaid i geisio’i rwystro rhag cael ei anfon yn ôl i Bacistan lle’r oedd yn dweud ei fod mewn peryg.

Rhieni maeth

Mae’r disgybl ysgol wedi bod yn byw gyda rhieni maeth, John a Lesley Hillard, yn Nantycaws ers 2008 ac ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer ei Lefel A yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth.

Fe gyfaddefodd wrth y papur mai celwydd oedd y stori iddo ffoi o Bacistan bedair blynedd yn ôl oherwydd ei fod yn poeni am ei fywyd, yn dilyn ffrae rhwng ei deulu a phartneriaid busnes.

Roedd Daniyal Shahzad wedi dweud ei fod yn ofni bod ei rieni wedi marw yn dilyn y ffrae.  Ond mae wedi cyfaddef bellach ei fod mewn cysylltiad gyda nhw, a’i frodyr a’i chwiorydd hefyd.

Roedd Daniyal Shahzad wedi derbyn cefnogaeth eang gan ei gyd-ddisgyblion, gwleidyddion a’r gymuned leol gyda 4,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar yr awdurdodau i adael iddo aros yn y wlad.

Ymddiheuro

“Fe hoffwn i ymddiheuro i fy ffrindiau ysgol sydd wedi fy nghefnogi. Rwyf wedi siomi pawb,” meddai Daniyal Shahzad wrth yr Evening Post.

“Yr un person ydw i â’r un y maen nhw’n ei adnabod – dw i ddim  wedi newid. Gobeithio y byddan nhw’n gallu maddau.

“Roedd y cyfan wedi dechrau gydag un celwydd bach. Fe fyddwn ni’n dweud y gwir  pe bawn i’n gallu mynd yn ôl a newid pethau”