Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo  o lofruddio tair cenhedlaeth o’r un teulu mewn tân yng Nghwmbrân wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Fe fydd Carl Anthony Mills, 28, yn cael ei gadw yn y ddalfa ac yn ymddangos o flaen y llys eto ar 17 Rhagfyr.

Nid oedd cais am fechnïaeth.

Fe fu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a’i hwyres chwe mis oed Kimberley yn y tân yn 15 Tillsland, Coed Efa, yn ystod oriau mân y bore ar 18 Medi.