Mae dyn wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o ladd tair cenhedlaeth o’r un teulu yn dilyn tân yng Nghwmbrân.

Ymddangosodd Carl Anthony Mills, 28, o flaen Llys Ynadon Caerffili heddiw.

Fe fyd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun.

Fe fu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a’i hwyres chwe mis oed Kimberley yn y tân yn 15 Tillsland, Coed Eva, yn ystod oriau mân y bore ddydd Mawrth.

Roedd Kayleigh wedi rhoi genedigaeth i efeilliaid ac roedd hi’n ceisio ymdopi â marwolaeth un ohonyn nhw yn fuan wedi ei eni.

Arestiwyd Carl Mills, tad yr efeilliaid, ddydd Mawrth.

“Rydyn ni’n cydymdeimlo â theulu Kim, Kayleigh a Kimberley ar amser hynod o anodd iddyn nhw,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygwr, Pete Jones.

“Hoffwn i ddiolch i’r teulu a chymuned ehangach Coed Eva am eu hamynedd a’u cefnogaeth wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.”