Mae Heddlu Gwent wedi cydnabod eu bod yn ystyried cwyn gan fam a glywodd am farwolaeth ei merch trwy wefan gymdeithasol Facebook.
Mae Cheryl Jones o ardal Tredegar wedi cael cefnogaeth ei haelod seneddol, Nick Smith, wrth brotestio am fethiant plismyn i roi gwybod iddi am farwolaeth Karla James, 30 oed ym mis Gorffennaf.
Dim ond ar ôl i berthynas dynnu ei sylw at dudalen yn dweud RIP Karla y deallodd fod rhywbeth o’i le gyda’i merch a oedd yn gaeth i gyffuriau.
Pan ffoniodd hi rif symudol ei merch, fe atebodd heddwas a dweud y byddai rhywun yn galw heibio iddi.
Mae Cheryl Jones wedi cwyno am fethiant yr heddlu i roi gwybod mewn pryd iddi fod ei merch yn farw mewn fflat filltir i ffwrdd.
Ymateb yr heddlu
Ond, mewn llythyr, roedd yr heddlu eu hunain wedi condemnio pobol am gyhoeddi newyddion o’r fath ar Facebook heb ystyried teulu’r wraig ifanc.
Bellach, oherwydd y gwyn swyddogol, dyw’r Heddlu ddim yn fodlon rhoi sylwadau pellach.