Kayleigh Buckley a'i merch Kimberley
Mae’r heddlu’n parhau i holi dyn ynglŷn â marwolaeth tair cenhedlaeth o’r un teulu  yng Nghwmbran ddoe.

Bu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh Buckley, 17, a’i hwyres chwe mis oed  Kimberley Buckley yn y tân.

Bu hyd at 30 o ddiffoddwyr tân yn ceisio diffodd y fflamau yn y tŷ yn Tillsland yng Nghoed Efa yn oriau mân bore dydd Mawrth.

Roedd Kayleigh wedi rhoi genedigaeth i efeilliaid yn ddiweddar ond bu farw un ohonyn nhw yn fuan ar ôl cael ei eni.

Cafodd dyn 27 oed o Fanceinion ei arestio ddoe ar amheuaeth o lofruddio.

Mae disgwyl i Heddlu Gwent gyfeirio’r achos at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod yr heddlu wedi cael eu galw i gartref y teulu ar sawl achlysur yn y gorffennol.


Kim Buckley a'i wyres Kimberley
‘Digwyddiad trasig’

Mae’r heddlu wedi diolch i’r gymuned am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad ac wedi rhoi teyrnged i rai o’r cymdogion “dewr” oedd wedi peryglu eu bywydau er mwyn ceisio achub y teulu.

Dywedodd Uwch Arolygydd Heddlu Gwent, Steve Corcoran: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sy’n cynnwys tair cenhedlaeth o’r un teulu ac mae ein cydymdeimlad gyda’u teulu.

“Gofynnwn, ar eu rhan, eu bod nhw’n cael llonydd i alaru ar hyn o bryd. Mae ein swyddogion cyswllt teulu yn eu cefnogi yn y cyfnod ofnadwy hwn.

“Mae hyn wedi effeithio ar y gymuned ehangach, roedden nhw’n adnabyddus yn y gymuned a bydd colled ar eu hôl. Rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad y gymuned yn y cyfnod ofnadwy hwn.

“Rydym yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod y sawl sydd wedi ei effeithio’n derbyn cefnogaeth.

“Bydd ein swyddogion yn aros ar y safle ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno siarad â nhw, unrhyw un sy’n gofidio neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn, yn enwedig unrhyw un a glywodd neu a welodd unrhyw beth amheus yn y cyfnod cyn y tân.

“Gall pobl hefyd ein ffonio ni ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.”