Peter Hain yn ymosod

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru wedi dweud wrth Lafur bod eu partneriaid yn Llywodraeth Cymru yn “wrth-Seisnig a gwrth-Brydeinig”.

Mae beirniadaeth Peter Hain ar Blaid Cymru’n dod ychydig ddyddiau ar ôl stori bod rhai o’r Aelodau Cynulliad Llafur yn cynllwynio yn erbyn y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, y tu ôl i’w gefn.

Mae hefyd yn arwydd o awydd y Blaid Lafur i lywodraethu ar eu pen eu hunain yng Nghymru heb orfod mynd i glymblaid.

Roedd yr ymosodiad yn rhan o araith godi-calon i’r cynadleddwyr yn Llandudno.

Amddiffynfa

Fe ddywedodd Peter Hain wrth y gynulleidfa mai nhw oedd yr amddiffynfa orau yn erbyn toriadau’r Ceidwadwyr, gan gyhuddo’r Llywodraeth yn Llundain o dorri addewidion ar Dreth ar Werth, ffioedd myfyrwyr a gwarchod gwasanaethau rheng flaen.

“Llafur yw rheng flaen amddiffynfa Cymru yn erbyn preifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd a gwerthu ysgolion fel y mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn Lloegr,” meddai.

“Yn yr amseroedd caled yma, mae ar Gymru angen Llywodraeth Lafur yn y Cynulliad yn fwy nag erioed i sefyll tros wasanaethau lleol hanfodol.”