Mae undeb athrawon fwya’ Cymru wedi dweud bod angen i unrhyw newid i’r drefn arholi fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

Dylid aros am ganlyniadau’r ymgynghoriad presennol i faes cymwysterau, meddai’r NUT, cyn penderfynu beth nesaf i’r arholiadau TGAU a’r Lefel A.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymgynghoriad ac mae’n hanfodol bod unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud ar sail y mewnbwn i’r broses honno,” meddai David Evans, Ysgrifennydd NUT Cymru.

“Mae’n allweddol bod tystiolaeth glir a dibynadwy yn cael ei defnyddio’n sail i benderfyniadau’r dyfodol er mwyn sefydlu trefn sy’n cael ei pharchu’n eang.”