Mae cyfarwyddwyr MTV wedi amddiffyn rhaglen realaeth The Valleys, gan fynnu nad yw’n bwriadu creu argraff anffafriol o Gymru.
Mae’r rhaglen yn dilyn hynt a helynt naw o bobl sydd wedi symud o’r Cymoedd i’r brifddinas ac sy’n ceisio creu argraff ar hyrwyddwr clwb nos a model.
Mae’r naw yn byw gyda’i gilydd yng Nghaerdydd, lle maen nhw’n derbyn hyfforddiant gan y ddau.
Yn y rhaglen gyntaf, fydd yn cael ei dangos ar 25 Medi am 10yh, mae’r rhaglen yn dangos y naw ar eu noson gyntaf yn yfed, dangos eu bronnau, a rhannu gwlâu ei gilydd.
‘Hunaniaeth gref’
Dywedodd cyfarwyddwr MTV, Kerry Taylor: “Y rheswm y daethon ni i Gymru oedd bod yr holl bobl sydd gyda ni ar y sioe – er eu bod nhw am adael y Cymoedd er mwyn gwella eu bywydau – yn falch dros ben o fod yn Gymry ac mae ganddyn nhw hunaniaeth gref sydd, rwy’n credu, yn unigryw ac yn arbennig iawn.”
Ychwanegodd nad yw’r rhaglen yn gynrychiolaeth deg o Gymru gyfan na’r Cymoedd, ac mai “adrodd eu straeon unigol” yw’r nod.
Dywedodd fod yna bryderon go iawn yng Nghymru am ddiweithdra a bod yna “heriau ynghylch sut y gall pobl wireddu eu huchelgais a’u breuddwydion”.
“Ond rwy’n credu y cewch chi falchder go iawn yn eu hunaniaeth eu hunain.”
‘Cynrychiolaeth dda’
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyn-fyfyrwraig y gyfraith, Jenna Jonathan, sydd wedi rhoi’r gorau i astudio dros dro er mwyn dilyn gyrfa fel model.
Dywedodd: “Rwy’n credu ein bod ni’n gynrychiolaeth dda o Gymru gan ein bod ni’n naw o bobl ifanc, sy’n ceisio gwireddu ein breuddwydion a chael y peth gorau allwn ni.”
Dywedodd Carley Belmont, sy’n rheolwr ar ganolfan alwadau: “Pe baen nhw’n gallu dod â chyfleoedd i’r Cymoedd, byddai’n stori hollol wahanol ond yn anffodus, dydw i ddim yn credu, yn anffodus, fod y cyfleoedd ar gael yr ydym yn chwilio amdanyn nhw yn y Cymoedd, felly rhaid i ni edrych yn rhywle arall.”