Guto Bebb
Mae Aelod Seneddol Conwy wedi gwadu ei fod wedi cael ei wfftio ar ôl i Aelod Seneddol o Loegr dderbyn swydd Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Dywedodd Guto Bebb fod y ffaith ei fod ef ac Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig eraill wedi gwrthryfela ar fater diwygio Tŷ’r Arglwyddi wedi arwain at benodi aelod mwy teyrngar i swydd Ysgrifennydd Seneddol Preifat David Jones, sef Daniel Kawczynski.

“Does dim cynllwyn dieflig ar y mater,” meddai Guto Bebb wrth Golwg360.

“Os oes yna wfftio wedi bod yna Simon Hart, Alun Cairns a finnau sydd wedi ei greu am ein bod ni wedi bod yn ganolog i’r gwrthryfel yn erbyn diwygio Tŷ’r Arglwyddi,” meddai.

Dywedodd Guto Bebb fod gan Daniel Kawczynski “ymwybyddiaeth o faterion Cymreig” gan ei fod yn cynrychioli sedd sy’n ffinio â Chymru.

Ar ôl cael y swydd dywedodd  Daniel Kawczynski ar ei wefan ei fod yn edrych ymlaen at ddefnyddio ei safle newydd er mwyn “amlygu pryderon ei etholwyr” yn Amwythig ac Atcham, a gwadodd Guto Bebb fod ei sylwadau yn amhriodol.

“Mae’n rhaid i Aelod Seneddol weithiau gyfiawnhau i’w etholwyr y gwaith y mae’n ei wneud, felly dwi ddim yn gweld bod dim o’i le gyda’r hyn ddywedodd,” meddai.

Grŵp Cornerstone

Mae Daniel Kawczynski, fel David Jones,  yn aelod o grŵp arch-Geidwadol Cornerstone sydd yn y gorffennol wedi galw am ddiddymu datganoli i Gymru a’r Alban.

Dywed Guto Bebb fod “llawer o grwpiau yn San Steffan ac nad yw pob aelod yn coleddu holl safbwyntiau’r grŵp y mae’n aelod ohono.”

Llywydd Cornerstone yw AS Gainsborough, Edward Leigh, ac mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, John Redwood, yn aelod amlwg arall o’r grŵp.

Mae Daniel Kawczynski wedi ymosod ar Lywodraeth Cymru yn y gorffennol gan ddweud bod trefi ar y ffin â Lloegr ar eu colled am fod grantiau Llywodraeth Cymru yn denu busnesau dros y ffin.

Dadleuodd hefyd bod ysbyty yn yr Amwythig wedi colli arian am eu bod nhw’n gorfod trin cleifion o Gymru.