Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio  ar gefnogwyr ralio  i yrru’n ddiogel wrth i Landudno wneud paratoadau ar gyfer croesawu Rali Cymru GB i’r dref ddydd Iau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Jane Banham: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn edrych ymlaen at gael croesawu Rali Cymru GB i Landudno am ddigwyddiad sy’n argoeli i fod yn un hynod gyffrous.

“Fodd bynnag, rwy’n erfyn ar bobl i adael y rasio i’r rhai sy’n cymryd rhan ac i yrru mewn modd diogel a chyfrifol ar eu ffordd i’r digwyddiad agoriadol ac adref.

“Bydd Swyddogion Plismona’r Ffyrdd Gogledd Cymru ynghyd â’r Gwasanaethau Plismona Lleol a Gan Bwyll yn cyfuno eu hymdrechion er mwyn atal a chanfod modurwyr sy’n dewis anwybyddu’r cyfyngiadau cyflymder.

“Fe ddylai’r rhai hynny sy’n dewis anwybyddu’r cyfyngiadau cyflymder ddisgwyl cael eu herlyn am hynny.”