Mae’n bosib y bydd athrawon yn streicio oherwydd bod eu tâl ac amodau gwaith yn “gwaethygu”.

Mae undeb yr NUT (National Union of Teachers) wedi holi’r aelodau ac mae 82.5% o’r 27% wnaeth ymateb, wedi pleidleisio o blaid streic.

Gallai’r bleidlais olygu tipyn o ffradach mewn ysgolion y tymor hwn.

Mae’r NUT yn rhybuddio y gallen nhw gyd-drefnu streic gydag undeb NASUWT.

Yn ôl yr NUT mae’r Llywodraeth yn San Steffan wedi “ymosod yn gyson ar y proffesiwn dysgu”.

“Mae athrawon yn cael eu tanseilio’n ddyddiol bron gan gwynion y Llywodraeth a’r gwanhau ar amodau gwaith a chyflog, sy’n dod yn sgil yr ymosodiad blaenorol ar bensiynau,” meddai Christine Blower, Ysgrifennydd Cyffredin yr NUT.

Mae gan yr NUT 228,831 o aelodau yn gweithio mewn ysgolion a cholegau trydyddol (chweched dosbarth) yng Nghymru a Lloegr.