Jamie Shadrake
Bydd angladd milwr a gafodd ei ladd yn Afghanistan yn cael ei chynnal yn ddiweddarach heddiw yn Wrecsam.

Cafodd Jamie Shadrake, oedd yn 20 oed ac yn gwasanaethu gyda Bataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Grenadier, ei ladd mewn ymosodiad ar siecbwynt yn Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand ar Awst 17.

Cafodd ei fagu yn Llanharan ger Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Wrecsam.

Bydd ei angladd yn cael ei gynnal am 1 o’r gloch heddiw.

Mewn datganiad yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd ei deulu eu bod wedi eu “distrywio o golli Jamie, oedd yn fab a brawd mor gariadus.

“Rydym yn falch iawn o’r ffaith fod Jamie yn barod i gyflawni ei ddyletswydd wrth helpu pobl Afghanistan.”