Cheryl Gillan
Mae Cheryl Gillan wedi cyhoeddi ar ei chyfrif Twitter ei bod yn gadael ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru wrth i David Cameron ad-drefnu ei Gabinet am y tro cyntaf ers i’r Llywodraeth Glymblaid ddod i rym.

Does dim cadarnhad swyddogol bod Cheryl Gillan yn gadael ond dywedodd ar Twitter ei fod wedi bod yn “fraint” i wasanaethu yn y cabinet.

Mae ’na bwysau gan Geidwadwyr yng Nghymru i benodi Aelod Seneddol sy’n cynrychioli sedd yng Nghymru i’w holynu.

Roedd Cheryl Gillan, sy’n cynrychioli etholaeth Sir Buckingham, wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru ers 2010.

Ymhlith yr enwau sy’n cael eu crybwyll i gymryd ei lle mae Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones, y chwip Stephen Crabb,  a’r Gweinidog dros Bobl Anabl, Maria Miller.

Yn ol adroddiadau, mae’r Farwnes Warsi hefyd wedi colli ei swydd fel cyd-gadeirydd y Blaid Geidwadol, ac mae Andrew Mitchell wedi cael ei benodi yn Brif Chwip. Fe fydd yn gadael ei swydd  fel Ysgrifennydd Datblygiad Rhynglwadol ac yn cymryd lle Patrick McLoughlin.

Mae’n debyg bod Ken Clarke hefyd wedi cytuno i adael ei swydd fel Ysgrifennydd Cyfiawnder ond fe fydd yn parhau yn y Llywodraeth mewn rol ymgynghorol, yn ol adroddiadau.

Y ddau arall sy’n wynebu colli eu swyddi heddiw mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Iechyd Andrew Lansley, a’r Ysgrifennydd Amgylchedd Caroline Spelman.

Mae Downing Street wedi cadarnhau y bydd Michael Gove yn parhau yn ei swydd fel Gweinidog Addysg.

Mae Ian Duncan Smith yn parhau’n Ysgrifennydd Gwaith a Phensiwn, gydag adroddiadau’n awgrymu ei fod wedi gwrthod cynnig i fod yn Ysgrifennydd Cyfiawnder.

Gobaith David Cameron yw dod a bywyd newydd i’w Lywodraeth gan gael gwared a’r rhai sydd heb gyflawni yn eu swyddi.

Mwy o fanylion i ddilyn…