Garn Goch
Mae trefnwyr cronfa i godi cofeb i Gwynfor Evans wedi dweud mai’r bwriad yw codi’r gofeb erbyn hanner canmlwyddiant is-etholiad Caerfyrddin yn 2016.
Roedd canmlwyddiant geni Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru ddydd Sadwrn diwethaf ac ymgasglodd torf i nodi’r dyddiad wrth garreg goffa Gwynfor Evans ar y Garn Goch uwchben Dyffryn Tywi.
Cafodd cronfa’r gofeb ei lansio yno, a dywed Peter Hughes Griffiths, a fu’n asiant i Gwynfor Evans, mai tref Caerfyrddin yw’r lleoliad delfrydol.
“Mae cofeb i Lloyd George yng Nghaernarfon ac i Aneurin Bevan yng Nghaerdydd. Pa le gwell i godi’r gofeb i Gwynfor nag yng Nghaerfyrddin, fel y gallwn ni a’r cenedlaethau a ddaw ryfeddu at un o eneidiau mawr ein cenedl,” meddai Peter Hughes Griffiths.
Cafodd Gwynfor Evans ei eni ar Fedi 1, 1912 yn y Barri, a’i fagu yn y dref, ond treuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn Sir Gaerfyrddin a bu’n Aelod Seneddol dros y sir yn dilyn is-etholiad 1966, ac eto yn dilyn etholiad yn 1974.
Dywedodd Alun Lenny, cynghorydd Plaid Cymru yn nhref Caerfyrddin ac aelod o Ymddiriedolaeth Cofeb Gwynfor, mai “tuedd y Cymry yw cofio’r brwydrau a gollwyd a’r tywysogion a laddwyd.”
“Ond dyma gyfle i ni godi cofeb i ŵr a’n harweiniodd i sawl buddugoliaeth genedlaethol,” meddai.
Mae gan dref Caerfyrddin amryw o gofebau amlwg sy’n cofio rhyfeloedd megis y Boer a’r Crimea, a chadfridogion yr Ymerodraeth Brydeinig megis Nott a Picton. Fe fyddai gosod cofeb yn y dre i heddychwr o genedlaetholwr felly’n mynd yn groes i’r arfer a fu.