Eleanor Simmonds
Mae’r nofwraig Eleanor Simmonds o Abertawe’n gobeithio ychwanegu at ei chasgliad o fedalau aur yng Ngemau Paralympaidd Llundain heddiw.

Fe fydd y ferch 17 oed, sy’n wreiddiol o ganolbarth Lloegr ond sydd bellach yn byw yn Abertawe ac yn ymarfer ym mhwll nofio cenedlaethol Cymru yn y ddinas, yn cystadlu yn y ras 400m dull rhydd heno.

Fe ddaeth hi’n arwres y pwll nofio yng ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008 pryd yr enillodd fedalau aur yn y rasus dull rhydd 100m a 400m pan nad oedd ond 13 oed.