Mae cwmni yswiriant ceir Admiral, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi elw gwell na’r disgwyl am chwe mis cynta’r flwyddyn.

Roedd elw’r cwmni cyn treth wedi cynyddu 7% i £171.8 miliwn.

Mae Admiral, sydd â swyddfeydd yn Abertawe a Chasnewydd, yn cyflogi tua 5,500 o weithwyr ac yn berchen ar frandiau Diamond, Confused.com ac Elephant.co.uk.

Mae’n debyg bod y cwmni yn yswirio un o bob 10 car yn y DU.

Ond dywed y cwmni bod eu busnes newydd dramor wedi gwneud colledion o £8.9m.