Aspers yn Abertawe
Fe fydd 100 o bobl yn colli eu gwaith wrth i gasino Aspers yn Abertawe gau ei ddrysau am y tro olaf  yfory.

Fe fydd 20 o weithwyr eraill y casino yn cael eu hadleoli i safle arall y cwmni.

Roedd y cwmni wedi cynnal ymgynghoriad 90 diwrnod gyda staff cyn cyhoeddi ei fwriad i gau’r casino. Mae’n debyg bod y casino wedi bod yn gwneud colled yn ystod cyfnod “heriol” iawn.

Fe agorodd y casino ym mis Medi 2007. Roedd Abertawe yn un o wyth o ddinasoedd yn y DU a  gafodd drwydded casino o dan ddeddfwriaeth newydd a ddaeth i rym yn 2005.