Trelars Ifor Williams
Llwyddodd y gwasanaethau brys i ddiffodd tân mawr yn un o safleoedd cwmni Trelars Ifor Williams ddoe heb lygru’r Afon Dyfrdwy.
Fe gafodd Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy’r ar ôl i dân gynnau yno am 1 o’r gloch brynhawn ddoe.
Roedd gweithwyr yn y Stad Ddiwydiannol wedi cwyno am arogl cemegol cryf a mwg du, trwchus yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Trelars Ifor Williams eu bod nhw’n gwneud “asesiad llawn i’r difrod”.
Dydi hi ddim yn glir eto beth achosodd y tân ond cafodd neb eu hanafu.
Cafodd Asiantaeth Amgylchedd Cymru hefyd eu galw i ymchwilio i’r digwyddiad.
‘Ymateb prydlon’
Bu’n rhaid i staff Trelars Ifor Williams gael eu symud o’r adeilad.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod nhw’n “ddiolchgar” am ymateb “prydlon” Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Cafodd diffoddwyr tân o Lannau Dyfrdwy, Yr Wyddgrug, Treffynnon, Wrecsam a Llanelwy eu galw i’r digwyddiad.
Daw’r cwmni trelars byd enwog yn wreiddiol o Gynwyd ger Corwen.