Cafodd pedwar llanc o Fangor eu carcharu am gyfanswm o 6 blynedd yn Llys y Goron Caernarfon heddiw yn dilyn ymosodiad ar grŵp o ffrindiau yn y ddinas y llynedd.

Cafodd Mathew Parry, 20 a Tyrone Davies, 18, eu carcharu am 3 blynedd, a chafodd dau lanc arall 17 ac 16 oed eu carcharu am 18 mis a 12 mis mewn canolfan i droseddwyr ifainc.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru bod yr ymosodiad yn Ffordd Penrallt ym Mangor ym mis Ebrill y llynedd yn un hollol “ddireswm” ar grŵp o bobl ifainc oedd yn dathlu pen-blwydd.

Cafodd dau o bobl eu hanafu’n ddifrifol yn yr ymosodiad.

Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn croesawu’r dedfrydau a gafodd y pedwar llanc heddiw.