Mae cerddwr o Essex a fu ar goll ar Fannau Brycheiniog dros nos wedi cael ei ganfod yn fyw ac yn iach.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud eu bod nhw wedi dod o hyd iddo ger Pontneddfechan.
“Mae’n cael ei asesu gan ein tîm meddygol,” meddai’r Arolygydd Andy Reed.
“Hoffwn ddiolch i’r gwirfoddolwr a’r swyddogion a fu’n rhan o’r chwiliad, sydd wedi dod i ddiwedd llwyddiannus.”
Roedd y dyn 34 oed yn arwain grŵp o gerddwyr ar daith wersylla pan fethodd â dychwelyd i’r gwersyll ar y mynydd ddoe.
Bu hofrennydd yr heddlu a chŵn yn chwilio amdano, gyda chymorth tîm achub mynydd Brycheiniog.