Bu farw swyddog mewn cystadleuaeth athletau yn yr Almaen ddydd Sul ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf gan waywffon.

Cafodd y dyn 74 oed ei gludo i’r ysbyty yn ninas Dusseldorf ar ôl y digwyddiad, ond bu farw yn ddiweddarach o’i anafiadau.

Mae’r athletwr 15 oed a daflodd y waywffon, yn ogystal â rhai aelodau o’r dorf a welodd y digwyddiad, yn derbyn cyngor a chymorth  seiciatryddol.

Roedd Dieter Strack wedi mynd i fesur y tafliad ond cafodd ei daro gan y waywffon cyn iddo lanio, yn ôl y wasg leol yno.

Cafodd y gystadleuaeth ei ohirio ar ôl y digwyddiad.

Yn 2007, cafodd y neidiwr hir o Ffrainc, Salim Sdiri, ei daro gan waywffon mewn cystadleuaeth athletau yn Rhufain a bu’n rhaid iddo fynd i’r ysbyty oherwydd ei anafiadau.