Leighton Andrews
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddwn nhw’n ymchwilio i danberfformiad canlyniadau Saesneg TGAU disgyblion Cymru eleni.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ei fod eisiau gwybod pam bod y canlyniadau wedi gostwng.

Syrthiodd canlyniadau TGAU ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eleni, a hynny am y tro cyntaf ers cyflwyno TGAU.

Mae Leighton Andrews wedi cyhuddo Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth San Steffan, Michael Gove, o roi pwysau ar fyrddau arholi i fod yn fwy llym.

Mae Michael Gove yn gwadu’r cyhuddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg San Steffan mai eu cyfrifoldeb nhw oedd addysg Lloegr yn unig, a bod addysg yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y canlyniadau a gyhoeddwyd ddydd Iau yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â chanlyniadau Saesneg TGAU disgyblion Cymru.

Roedden nhw’n bwriadu ystyried yr holl dystiolaeth er mwyn canfod beth ddigwyddodd, meddai llefarydd.