Mae Cyfarwyddwr Cyngor Iechyd Cymuned Cymru wedi dweud bod yn flin ganddi os yw ei sylwadau ar y Gymraeg a recriwtio meddygon wedi cael eu camddehongli.

Mewn cyfweliad ar Radio Wales ar broblemau denu meddygon i Gymru, dywedodd Carol Lamyman-Davies fod teimlad ymhlith meddygon a chlinigwyr o du allan i Gymru fod rhaid siarad Cymraeg er mwyn gweithio yng Nghymru.

Dywedodd Carol Lamyman-Davies wrth Golwg360  ei bod hi wedi gwneud y sylw ar sail sgyrsiau gyda swyddogion o golegau meddygol, ond nad oedd llu o bobol wedi mynegi’r farn.

“Mae’n flin gen i os oes camddehongliad wedi bod. Rwy’n bendant o blaid cael meddygon sy’n siarad Cymraeg achos mae’n bwysig i’r claf i gael gwasanaeth yn yr iaith mae’n dewis.

“Nid jyst iaith yw hi. Mae’n fwy na hynny ac rwy’n teimlo fod y Byrddau Iechyd heb wneud digon i godi ymwybyddiaeth o’r angen am wasanaeth Cymraeg.

“Mae mwy o siaradwyr Cymraeg yn gweithio fel arbenigwyr meddygol nag y bydden ni’n tybio ond nid yw’r byrddau iechyd yn ymwybodol eu bod nhw’n siarad Cymraeg.

“Mae angen i ysbytai a byrddau iechyd gadw cofrestr iaith i wneud yn siŵr fod nhw’n medru darparu ar gyfer anghenion iaith pobol.”

Rhybudd y BMA

Ym mis Mai rhybuddiodd BMA Cymru, sy’n cynrychioli meddygon, y gallai gwthio’r Gymraeg “waethygu problemau recriwtio meddygon.”

Roedd y BMA o’r farn fod angen “cydbwyso cryfhau’r iaith Gymraeg gyda’r angen i weithredu’n effeithiol gyda gwasanaeth staffio llawn.

“Os mai’r bwriad yw gwella profiad y claf yna byddai’n well i’r llywodraeth dreulio amser ac arian yn taclo amserau aros,” meddai’r corff.

Dywedodd Carol Lamyman-Davies ei bod hi’n deall barn y BMA, ond bod rhaid sylweddoli fod iaith yn “chwarae rôl bwysig iawn i’r claf.”

Dywedodd y bydd Cyngor Iechyd Cymuned Cymru yn ymateb i ymholiad y Comisiynydd Iaith i’r ddarpariaeth Gymraeg ym maes iechyd a gofal yn ystod yr hydref a’i bod hi eisoes wedi trafod y pwnc gyda Meri Huws.

Nid oedd Comisiynydd y Gymraeg am wneud sylw ar fater y Gymraeg a recriwtio meddygon ar hyn o bryd cyn cynnal yr ymholiad yn yr un maes.

Recriwtio

Dywedodd Carol Lamyman-Davies fod prinder meddygon mewn meysydd megis iechyd plant ac iechyd meddwl yng Nghymru, a bod angen hyfforddi mwy o feddygon yng Nghymru a’i gwneud hi’n “werth chweil” iddyn nhw aros.

“Mae gyda ni lawer i gynnig yng Nghymru o ran safon byw ac mae angen gwneud yn siŵr fod gyda ni’r cyllid i gadw meddygon yma.

“Mae angen marchnata Cymru’n well fel bod gweithwyr a meddygon yn gwybod am y wlad. Byddai hynna’n ei gwneud hi’n haws i recriwtio pobol o du hwnt i Gymru.”