Mae undeb Unite wedi dweud fod piced y tu allan i safle Gwasg Gomer wedi cael ei ganslo, ond bod y streic heddiw yn dal i fynd yn ei flaen.
Mae Unite wedi cyhuddo’r cwmni o “fwlio” aelodau’r undeb, ond yn sgil “datblygiad” heddiw mae’r llinell biced a oedd i fod i gael ei chynnal am hanner dydd wedi cael ei chanslo.
Dywedodd David Lewis, swyddog rhanbarthol Unite, fod yr anghydfod yn parhau a bod aelodau Unite yn dal i gynnal streic heddiw ac yn cwrdd â chyfreithwyr prynhawn yma.
Mae gan Gomer tua 70 o staff, ac mae 16 ohonyn nhw’n aelodau o undeb Unite.
Ddoe dywedodd un o weithwyr Gomer sy’n aelod o Unite wrth Golwg360 fod yr anghydfod yn ymwneud â “phethe bach mewnol” a bod angen i Gomer ac Unite “eistedd lawr rownd bwrdd a thrafod – dyna’i gyd yw e.”
“Dylai’r pethe ma fod wedi cael eu sortio mas fisoedd nôl,” meddai.