Ysbyty Glan Clwyd
Yn ôl adroddiad damniol, mae oedi mewn diagnosis a thriniaeth gan staff mewn ysbyty wedi cael eu beio am fod yn ffactorau allweddol ym marwolaeth claf oedrannus.
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi gwneud amryw o argymhellion i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ôl ymchwiliad i farwolaeth dyn a gafodd ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym mis Hydref 2009.
Roedd y claf, sy’n cael ei gyfeirio fel Mr Y yn yr adroddiad, yn dioddef o glefyd ar yr ysgyfaint (COPD) ac Alzheimer’s. Roedd ganddo hefyd anawsterau cyfathrebu pan gafodd ei gludo i’r ysbyty ym Modelwyddan.
Cafodd lawdriniaeth ar broblem wrinol ond bu farw dros bythefnos yn ddiweddarach ar 7 Tachwedd ar ôl i’r clwyf fynd yn heintiedig.
‘Diffygion’
Fe gwynodd merch Mr Y, Mrs A, wrth yr Ombwdsmon am y gofal gwael a gafodd ei thad. Fe gododd pryderon am oedi yn y diagnosis ac oedi yn y llawdriniaeth i drin yr haint.
Yn yr adroddiad, amlinellodd yr Ombwdsmon, Peter Tyndall, ddiffygion y bwrdd iechyd, gan gynnwys methiant y doctoriaid i gofnodi ac yna trin canlyniadau profion yn effeithlon, yn ogystal â diffyg cyfathrebu rhwng y staff meddygol.
“Fe gwynodd Mrs A am gyfres o oediadau yn y broses o wneud diagnosis ac yna trin ei thad a oedd, yn ei barn hi a’r teulu, wedi cyfrannu at ei farwolaeth,” meddai Peter Tyndall.
Mae’r Ombwdsmon wedi gwneud nifer o awgrymiadau y dylid cael ei rhoi mewn lle gan y bwrdd iechyd o fewn pedwar mis.
Dywedodd y bwrdd iechyd ei bod yn trin y materion a godwyd yn yr adroddiad fel mater o flaenoriaeth. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi talu iawndal i deulu’r dyn.