Mae aelodau undeb Unite yn cynnal streic arall yng Ngwasg Gomer yfory er mwyn protestio yn erbyn “triniaeth annerbyniol barhaus” gan reolwyr y cwmni.

Mae Unite yn bwriadu cynnal trafodaethau gyda chyfreithwyr os na fydd yr anghydfod yn cael ei ddatrys, a bydd piced yn cael ei gynnal yfory ar safle’r cwmni ger Llandysul.

Mae gan Gomer tua 70 o staff, ac mae 16 ohonyn nhw’n aelodau o undeb Unite.

Dywedodd David Lewis, swyddog rhanbarthol Unite, fod yr aelodau wedi “penderfynu gwrthsefyll bwlio am fod yn aelod undeb,” a dywedodd nad oes lle ar gyfer unrhyw fath o fwlio yn y gweithle.

“Byddwn ni’n galw ar gwsmeriaid Gomer hefyd i bwysleisio fod bwlio yn y gweithle yn anghywir,” meddai David Lewis.

Aelod Unite yn siarad

Dywedodd aelod o undeb Unite, sy’n gweithio i Gomer ac sy’n dymuno aros yn ddienw, fod y cyhuddiad o fwlio wedi cael ei or-ymestyn.

“Mae ymddygiad pobol cefn gwlad yn wahanol i ymddygiad pobol y dre,” meddai’r gweithiwr.

“Gallwch chi wneud a dweud rhai pethe yn y wlad sy’n cael ei ddehongli fel bwlio yn y trefi mawr. Mae cwestiynau dros agwedd neu ymddygiad, ond dylen ni ddim defnyddio’r gair bwlio,” meddai’r gweithiwr.

“Rhyw bethe bach mewnol yw’r rhain a dylen nhw ddim fod wedi cael y sylw maen nhw wedi eu cael,” meddai’r gweithiwr.

“Mae angen i Gomer ac Unite eistedd lawr rownd bwrdd a thrafod. Dyna’i gyd yw e.”