Yn dilyn gwaith ditectif ar-lein, mae Eisteddfodwr wedi dod o hyd i’w ffôn symudol a gafodd ei ddwyn ar faes yr ŵyl dros wythnos yn ôl.

Mae Sbaenwr sy’n byw ym Mhenarlâg wedi derbyn rhybudd gan yr heddlu ar ôl iddo gyfaddef dwyn y ffôn.

Cafodd ffôn Nici Beech, o Gaernarfon, ei ddwyn yn yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg.

Diolch i dechnoleg fodern, cafwyd hyd i’r iPhone ar ôl i’r lleidr dynnu llun oddi ar gamera’r ffôn a gafodd ei ddwyn.

“Roeddwn i’n gallu gweld y lluniau newydd yn dod i fyny ar ‘Photostream’,” meddai Nici Beech, “ond nid fi oedd wedi tynnu’r un o dy fewn i’r tŷ.”

Fe gynigiodd Rhys Llwyd, sy’n amlwg iawn ar wefannau cymdeithasol, ffordd o ddod o hyd i’r ffôn trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.

“Dyma Rhys Llwyd yn cynnig helpu ac mi ffeindiodd, trwy ddefnyddio Geolocation, fod y llun wedi cael ei dynnu mewn tŷ ym Mhenarlâg.”

Daeth Rhys Llwyd o hyd i gyfeiriad y tŷ gan ddefnyddio Google Maps.

Bu’r stori’n cael cryn sylw ar y rhwydweithiau cymdeithasol o dan yr hash tag #operyshynffôn.

Lladrata ar y Maes

Bu sawl achos o ladrata yn ystod yr Eisteddfod eleni.

Fe rwygodd lladron eu ffordd trwy resi o unedau ar nos Iau’r Eisteddfod, trwy dorri holltau yn y paneli ochr, a symud yn rhwydd o un stondin i’r llall.

Ymhlith y stondinau a gollodd arian oedd siop Seld, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Plaid Cymru a sawl elusen.