Mae’r enw parth .cymru wedi denu 65% yn fwy o gofrestriadau o flaen llaw na’r enw parth .wales.
Y flwyddyn nesaf mae disgwyl y bydd y ddau enw yn gallu cael eu defnyddio ar wefannau, fel mae .uk yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.
Bydd .cymru a .wales yn cael eu cyflwyno i gorff ICANN, sy’n penderfynu ar enwau’r we, ynghyd ag enwau parth daearyddol eraill ar gyfer taleithiau megis Quebec a Florida, a dinasoedd megis Paris a Berlin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan cefnogaeth i’r ddau enw parth o Gymru, er bod Carwyn Jones wedi awgrymu ar lawr y Senedd y llynedd y byddai’n cefnogi .wales yn unig gan mai dyna’r enw fydd yn dod â’r “budd economaidd mwyaf i Gymru.”
Mae 2,933 o enwau gwe sy’n gorffen gyda .cymru wedi cael eu rhag-gofrestru hyd yma trwy gyfrwng United Domains, o gymharu gyda 1,795 o wefannau .wales.
Cwmni Nominet o Rydychen sy’n rheoli’r ddau enw parth Cymreig, a chyn-gapten tîm rygbi Cymru, Ieuan Evans, sy’n cadeirio’r grŵp sy’n cynghori Nominet ar gais enwau parth Cymru.
“Mae hwn yn gyfle i weld Cymru’n cael ei chynrychioli ymhellach ar y llwyfan rhyngwladol,” meddai Ieuan Evans yn gynharach eleni.