Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi croesawu cynllun newydd sydd yn mynd i’r afael â gor-yfed yn y brifddinas.

Bydd unrhyw un sy’n derbyn triniaeth feddygol ar noson allan yn cael ei ffilmio yn cyrraedd ac yn gadael canolfan feddygol newydd.

Byddan nhw’n cael gweld y fideo ar ôl iddyn nhw sobri.

Nod y cynllun gwerth £85,000, sydd wedi’i greu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yw lleihau’r pwysau sy’n cael ei roi ar unedau damweiniau ac achosion brys gan bobl sy’n gor-yfed gyda’r nos.

Bydd canlyniadau’r cynllun yn cael eu dadansoddi gan Brifysgol Caerdydd.

‘Syniad creadigol’

Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Henry Newman: “Gan fod y Bwrdd Iechyd wedi addo peidio storio’r fideos ac y byddan nhw ond yn eu defnyddio i’w dangos i gleifion, rwy’n ei groesawu fel syniad creadigol i helpu i fynd i’r afael â gor-yfed.

“Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ymfalchïo yn y ffaith mai ein lleoliad ni yw’r lleoliad trwyddedig mwyaf diogel yn y ddinas. Er nad yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn yfed yn ormodol, mae ein staff ar y drws wedi eu hyfforddi i ofalu am unrhyw un sydd wedi yfed gormod ac rydym yn rhedeg gwasanaeth ‘bws rhad ac am ddim’ i’n myfyrwyr sy’n wynebu’r perygl mwyaf.”

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dweud bod hyd at 60% o welyau’r adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu defnyddio gan gleifion sydd wedi meddwi.

Bydd y ganolfan iechyd newydd yn cael ei sefydlu yng Nghapel Ebenezer yn Heol Charles a phe bai’n llwyddiannus, gallai cynlluniau tebyg gael eu sefydlu ledled Cymru.

Bydd meddygon, nyrsys, heddlu a staff cynorthwyol yn gweithio yn y ganolfan.

Ni fydd y fideos  yn cael eu cadw ar gofnod, yn ôl y Bwrdd Iechyd, nac yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.

Bydd y ganolfan yn agor fis nesaf, a bydd yn agor bob nos Fercher a nos Sadwrn.

‘Pwysau ychwanegol’

Dywedodd Claire Bevan, sy’n nyrs adrannol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Nod y cynllun peilot yw darparu triage ac i gefnogi unigolion gyda’r driniaeth briodol yng nghanol y ddinas am ddwy noson am gyfnod o 12 wythnos, gyda’r nod o leihau’r gofyn bod cleifion yn cael eu trosglwyddo i’r Uned Argyfwng.

“Mae pobl sy’n mynd yn sâl trwy alcohol yn gosod pwysau ychwanegol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus. Bydd y cynllun peilot hwn yn cefnogi’r driniaeth ar gyfer anghenion sy’n ymwneud ag alcohol a mân anafiadau yng nghanol y ddinas er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio mewn modd priodol.

“Trwy leihau’r galw ar nifer y cleifion sydd wedi meddwi sy’n mynd i’r Uned Argyfwng, bydd y capasiti ar gael i gleifion sydd angen gofal mewn argyfwng.”