Y Sioe Fawr yn Llanelwedd
Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol fis Mai nesaf.

Mae David Walters wedi treulio’i yrfa gyfan gyda’r Gymdeithas ers ymuno yn 1976 ac mewn datganiad dywedodd Bwrdd y Gymdeithas Amaethyddol fod ei gyfraniad i lwyddiant y Gymdeithas yn “anfesuradwy.”

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sy’n trefnu’r Sioe Fawr yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf, a’r sioeau Gaeaf, Gwanwyn, a Gŵyl Tyddyn a Gardd ar yr un safle.

Dywedodd David Walters fod y penderfyniad wedi bod yn un anodd ac y bydd yn colli gwefr y swydd, ond ei fod yn teimlo ei bod hi’n bryd i berson iau gymryd yr awenau.

“Mae rhedeg y gymdeithas yn gofyn am egni a brwdfrydedd person iau fel y bydd yn parhau i ffynnu a llwyddo yn y dyfodol,” meddai David Walters.

Daw David Walters o Langadog a derbyniodd OBE yn 2007 am ei wasanaeth i amaethyddiaeth yng Nghymru.