William, Dug Caergrawnt, oedd  yng ngofal yr hofrennydd wnaeth achub merch aeth i drafferthion yn y môr oddi ar Ynys Môn ddoe.

Roedd dwy ferch wedi mynd i drafferthion mewn llanw cryf wrth nofio oddi ar draeth ger Rhoscolyn. Achubwyd un ferch gan syrffiwr, ac fe achubwyd y llall gan yr hofrennydd achub a anfonwyd o ganolfan yr RAF yn y Fali.

Roedd yn un o’r cyrchoedd achub cyflymaf erioed gan mai dim ond 38 eiliad gymerodd yr hofrennydd i gyrraedd y ferch.

Aethpwyd â’r ddwy ferch, ynghyd â mam un o’r merched, i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.