Cerflun Owain Glyndŵr yn neuadd y ddinas Caerdydd
Fe fydd rhaglen ddogfen ar S4C yn datgelu “gwir wyneb” yr arwr cenedlaethol Owain Glyndŵr am y tro cyntaf.
Bydd y rhaglen Wyneb Glyndŵr yn ail-greu wyneb y tywysog Cymreig o’r Oesoedd Canol gan ddefnyddio technoleg gyfrifiadurol 3D a CGI.
Fe ddechreuodd Owain Glyndŵr wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn 1400 a hawlio mai fe oedd Tywysog Cymru – ond does neb yn gwybod sut roedd yn edrych.
Yn ôl S4C fe fydd rhaglen newydd fydd yn cael ei ddangos ar Ddydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth yn newid hynny.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan yr actor Julian Lewis Jones, ac yn dechrau yng Nghorwen a Chaerdydd.
Ond bydd rôl arbenigwr o America a darganfyddiad mewn hen archif ym Mharis yn rhoi blas rhyngwladol i’r siwrnai, meddai’r sianel.
Mae’r ymchwiliad yn cynnwys defnyddio technegau dad-heneiddio sy’n cael eu defnyddio gan asiantaethau gan gynnwys yr FBI er mwyn datrys achosion o gipio plant.
Creu wyneb Glyndŵr
Cwmni Wild Dream Films o Gaerdydd sy’n gyfrifol am y rhaglen, gyda Stuart Clarke yn cyfarwyddo a Sion Hughes yn cynhyrchu.
Roedd Stuart Clarke yn aelod o’r tîm a gynhyrchodd y gyfres deledu ‘Death Masks’ ar History Channel US.
Fe wnaeth y gyfres ail-greu wynebau Abraham Lincoln, George Washington a William Shakespeare.
Fe ddechreuodd y broses o greu pen Glyndŵr trwy greu masg sylfaenol o’i gofgolofn farmor yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
Fe wnaed ymchwil manwl wedyn i nodweddion wyneb yr arwr gan gasglu tystiolaeth o destunau hynafol, llyfrgelloedd a hen luniau.
O dan arweinid Antonis Kotsias, fe ddefnyddiodd tîm graffeg o Wlad Groeg y technegau CGI diweddara’ i ail greu pen Glyndŵr ar sail gwaith ymchwil.
Fe wnaeth y data gael eu defnyddio gan artistiaid i greu model 3D o’r pen gan ychwanegu’r croen, llygaid a’r gwallt.
“Rydyn ni wedi magu enw da ledled y byd wrth ddefnyddio technegau arloesol fel CGI i gyflwyno hanes,” meddai Stuart Clarke.
“Trwy ddefnyddio’r dull hwn, fe wnaethom ni ail-greu wyneb un o enwau mawr hanes Cymru. Am 600 mlynedd, nid oedd gennym wyneb ar gyfer Glyndŵr – ond mae hynny nawr wedi newid, diolch i ni ac S4C.”