Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cynghori pobol i baratoi am gyfnodau o law trwm ar hyd a lled y wlad drwy gydol y dydd yfory.
Ar ôl y tywydd braf heddiw, bydd tro ar fyd yfory wrth i law taranllyd a thrwm symud ar draws y wlad yn ystod y bore, gan adael y wlad erbyn iddi nosi.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd garw ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd.
Yn ôl y rhagolygon, mae disgwyl mwy o law trwm ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Mae disgwyl i fodfedd o law ddisgyn yn y rhan fwyaf o lefydd yng Nghymru yfory, ond mae disgwyl i gymaint â dwy fodfedd ddisgyn mewn rhai mannau.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth y dylid cymryd gofal mawr oherwydd gall amodau gyrru fod yn beryglus.
“Mae’n amhosib rhagweld lle yn union bydd y glaw yn taro, ond mae disgwyl cawodydd trwm a gwyntoedd cryfion tua’r De a’r De Orllewin,” meddai’r llefarydd.