Pont Hafren
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi galw am gael gwybod pam nad yw adroddiad i effaith economaidd tollau Pontydd Hafren wedi ei gyhoeddi.

Ar 30 Mehefin 2010, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ar y pryd, Ieuan Wyn Jones, ymchwiliad gan ddweud y byddai yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2011.

Ym mis Tachwedd y llynedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod yr adroddiad terfynol, gan gonsortiwm Arup, ar fin cael ei gyhoeddi “yn y flwyddyn newydd”.

Serch hynny does dim golwg o’r adroddiad hyd heddiw. Dywedodd y Blaid Geidwadol ei fod yn arwydd pellach o “ddiogrwydd” y Blaid Lafur a’u diffyg diddordeb mewn materion economaidd.

“Mae’r oedi cyn cyhoeddi’r adroddiad yma’n bwysig o ystyried effeithiau negyddol amlwg tollau Pontydd yr Hafren ar fusnesau, teithwyr a thwristiaid de Cymru,” meddai’r Aelod Cynulliad Byron Davies, llefarydd ei blaid ar drafnidiaeth.

“Roedd disgwyl y byddai’r adroddiad, sydd eisoes 18 mis yn hwyr, yn darparu tystiolaeth gadarn ynglŷn ag effaith economaidd y tollau, ac yn awgrymu sut fyddai modd lleddfu ar yr effeithiau negyddol.

“Rydyn ni’n deall y gallai amserlen y llywodraeth fod wedi llithro ryw ychydig ers 2011 o ganlyniad i Etholiadau’r Cynulliad, ond rydyn ni’n parhau i ddisgwyl 18 mis yn ddiweddarach.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am rewi’r tollau am bedair blynedd, a fyddai o fudd mawr i yrwyr sy’n croesi’r ffin.

“Rydw i’n ofni bod absenoldeb yr adroddiad yma yn dystiolaeth bellach bod y Blaid Lafur yn ddiog ac nad ydyn nhw’n gweithredu er mwyn creu swyddi na helpu’r economi.”